10/19/2026 | Press release | Distributed by Public on 10/20/2026 03:11
Mae Swyddfa'r Comisiwn Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi cerydd i Ogi Networks Limited (ONL) ac Uned Ddata Llywodraeth Leol - Cymru, sy'n cael ei hadnabod fel Data Cymru, yn dilyn ymosodiad â meddalwedd wystlo. Yn ystod yr ymosodiad cymerwyd gwybodaeth bersonol 3,300 o bobl, y mwyafrif yn blant.
Llwyddodd yr ymosodiad i fanteisio ar gyfrif prawf, o'r enw 'Test2', a oedd mewn bodolaeth ers mwy na 12 mlynedd ac a oedd naill ai'n dal yn weithredol ers iddo gael ei greu neu wedi'i ailactifadu yn anfwriadol cyn y digwyddiad. Canfuwyd bod y cyfrif 'Test2' wedi'i warchod drwy gydol y cyfnod yma â'r cyfrinair 'Password1', sydd, ar ôl cael ei wirio drwy gyfrwng offeryn cryfder cyfrineiriau trydydd parti, wedi'i ddosbarthu fel un 'gwan iawn' y gellid ei gyfaddawdu mewn llai nag eiliad.
Digwyddodd yr ymosodiad meddalwedd wystlo ar 1 Tachwedd 2024 ac amgryptiodd 182.7GB o ddata, gyda 42GB o ddata wedi'i gymryd o systemau Data Cymru. Roedd yr wybodaeth a gafodd ei chyfaddawdu yn ymwneud â dau brosiect sy'n cefnogi plant a theuluoedd.
Dywedodd David Doodson, Pennaeth Ymchwiliadau Swyddfa'r Comisiwn Gwybodaeth:
"Dyw Password1 ddim yn gyfrinair priodol, mae'n ddrws llydan agored i weithredwyr niweidiol.
Mae'r digwyddiad yma yn dangos sut y gall un cyfrinair gwan, ynghlwm wrth gyfrif nad oedd ei angen mwyach, adael y drws yn agored i seiber-ymosodiad difrifol a all effeithio ar filoedd.
"Nid un sefydliad yn unig oedd yn gyfrifol am y methiannau yma. ONL greoedd y cyfrif prawf tra bo Data Cymru'n cadw rheolaeth gyffredinol dros ei rwydwaith, gan gynnwys y gallu i gyfarwyddo ONL i greu neu ddileu cyfrifon. Roedd y naill a'r llall heb roi mesurau digon clir ac effeithiol ar waith i sicrhau bod hen gyfrifon yn cael eu hadnabod a'u dileu yn rheolaidd.
"Mae'r wers i bob sefydliad yn syml: defnyddiwch gyfrineiriau cryf, amddiffynnwch fynediad o bell gyda dilysiad aml-ffactor, adolygwch bob cyfrif defnyddiwr yn rheolaidd, a byddwch yn gwbl glir pwy sy'n gyfrifol am seiberddiogelwch pan fydd gwasanaethau'n cael eu rhoi ar gontract allanol. Nid peth dewisol yw rheolaethau seiberddiogelwch sylfaenol, a gall y canlyniadau negyddol drwy fod hebddyn nhw fod yn ddifrifol."
Canfu'r ICO fod ONL wedi torri Erthyglau 32(1)(b) a 32(1)(d) o GDPR y Deyrnas Unedig trwy fethu â rhoi mesurau priodol ar waith i gynnal cyfrinachedd ac uniondeb ei systemau prosesu a thrwy fethu â phrofi a gwerthuso'n rheolaidd a oedd ei fesurau diogelwch yn effeithiol.
Yn benodol:
Canfu'r ICO fod Data Cymru wedi torri Erthyglau 28(4), 32(1)(b) a 32(1)(d) o GDPR y Deyrnas Unedig.
Yn benodol:
Parhaodd y tramgwyddau gan y ddau sefydliad heb gael eu hadnabod a'u datrys.
Yn dilyn y digwyddiad, cyflwynodd ONL broses sy'n procio cwsmeriaid i adolygu cyfrifon gweithredol o dro i dro ac sy'n darparu argymhellion am gyfrifon y dylid eu dileu. Cryfhaodd hefyd ei reolaethau ar fynediad i gyfrifon, gan gynnwys defnyddio dilysiad aml-ffactor.
Ar 30 Ebrill 2025, ymrwymodd Data Cymru ac ONL i gontract prosesu data sy'n cydymffurfio â'r gyfraith. Hefyd, cyflwynodd Data Cymru adolygiadau cyfnodol o gyfrifon a chryfhaodd y rheolaethau ar fynediad i gyfrifon, gan gynnwys drwy weithredu dilysiad aml-ffactor.
Mae'r digwyddiad yma yn amlygu pwysigrwydd dulliau sylfaenol o reoli cyfrifon a goruchwyliaeth glir dros wasanaethau sy'n cael eu darparu'n allanol.
Dylai sefydliadau: